19.3.08

Helfa Wyau_Easter Egg Hunt


Wedi chwilota am oriau maith am yr holl wyau euraidd casglwyd £142.50 o arian!
Yn ogystal, casglwyd £60 tuag at ein Dawns Greadigol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy! Ardderchog!

After many hours of searching, all the eggs were found and an egg-cellent £142.50 raised!
In addition £60 was raised for our Creative Dance at the National Eisteddfod. Well done everyone!

14.3.08

newyddlen 18

Croeso i Newyddlen 18. Mawr ddiolch i’n rhieni sydd wedi ein cefnogi mor dda yn ystod yr hanner tymor diwethaf, rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth i ambell lythyr eich cyrraedd yn hwyr a gohirio nosweithiau rhieni oherwydd cystadlaethau, cyfarfodydd, cyrsiau a salwch. Diolch o galon i Blwyddyn 5 a 6 am ysgrifennu’r newyddlen hon. Gobeithiwn y byddwch yn ei mwynhau!

Gala Nofio gan L a V

Roedd pawb wedi cynhyrfu ac roedd ofn ar rai! Gala nofio! Neidiodd pawb i mewn i’r bws mini am ugain munud wedi naw, a phan gyrhaeddasom y ganolfan hamdden roedd pengliniau ambell un yn curo, ond teimlai pawb yn well wrth neidio i mewn i’r dwr. Cafodd L a K fedalau efydd, J fedal arian ac Ab fedal aur! Roedd ymgeiswyr eraill hefyd, ond ni chawsant fedal – er eu bod wedi gwneud eu gorau glas. Rydym yn falch iawn o’n llwyddiant!

Gala Nofio gan F

Heddiw es i’r gala nofio a nofiais ar fy nghefn. Cyrhaeddasom oddeutu 9.30 yn yr hen fws mini, gan ddisgwyl am ychydig cyn i J nofio ei ras gyntaf, yn wych iawn i ddod yn ail. Dyna fy nhro i i nofio ar fy nghefn a des yn ail hefyd! Galwasant fy enw bron yn syth ar ol i mi eistedd i lawr, a bu’n rhaid i J ailadrodd popeth - cefais fedal arian! Y tro cyntaf i mi ennill medal, teimlad gwych! Daeth Rhoscolyn yn y chweched safle – cafodd pawb amser gwych iawn!

Gala Nofio 2008 gan Ch

Roedd gala nofio fore Mawrth. Bu plant Rhoscolyn yn cystadlu. Nofiasant yn erbyn ysgolion gwahanol, er i rai nofio’r ras gyfnewid yn unig, roedd pawb yn cefnogi ei gilydd. Roedd llawer o blant yn fuddugol, a cafodd rhai fedalau. Ar ddiwedd y dydd, roedd pawb wedi cael hwyl, ennill neu golli.

PENTRE PERYGLON gan B

Ymwelodd Blwyddyn 6 a Phentre Peryglon yn Sir Fflint i ddysgu am wahanol beryglon. Pan gyrhaeddasom, cawsom reolwyr cyfrifiadurol (galwasant hwy yn wyau!) i ateb cwis. Cawsom 55% yn gywir.

Aethum i fodel gwir o dren i weld ffilmiau am ddigwyddiadau ar drenau Manceinion. Gwelsom fodel o drac tren wedyn – a cawsom fraw clywed swn tren yn dod tuag atom.

Yna, dysgasom sut i groesi’r lon yn gywir, faint o bellter mae car ei angen cyn stopio i bobl groesi a sut mae pobl fyddar neu dall yn croesi croesfan. Roedd rhai yn hoff iawn o’r car Toyota crand!

Yna, dysgasom sut i ymdopi a bwlio a beth i’w wneud amdano. Gwyliasom fideo oedd yn dangos i ni bod yn llwer gwell dweud wrth oedolyn na cwffio’n ol neu cadw’n ddistaw.

Hwyl Fawr i Ganolfan Ddringo’r gan R a H

Heddiw fydd ein noson olaf i ymweld a’r Beacon. Bydd Blwyddyn 6 yn hiraethu am y waliau uchel a’r hyfforddwyr caredig. Rydym wedi dysgu sut i ddefnyddio caribiner, sut i glymu cwlwm ffurf 8, sut i ddefnyddio harness a gwisgo helmed a sut i “fi-leio”, ac yn bennaf oll – sut mae dringo yn ddiogel! Bydd H yn enwedig yn anhapus gadael y ganolfan, gan ei fod mor agos i gyrraedd y brig yr wythnos hon – pob lwc H!

Llwyddiant yr Eisteddfod gan K a L

Diolch i bawb am gefnogi’r ddawns greadigol Royal Charter. Rydym yn hwylio drwy’r eisteddfodau lleol yn y safle cyntaf, ac ar ein ffordd i’r Genedlaethol! Ond, efallai mai taw fydd pia’hi pan fydd y beirniaid nesaf yn ein gwylio – er ein body n mawr obeithio llwyddo yn y rhagbrawf nesaf er mwyn i bawb ein gweld ar y teledu!

Anlwc Pel Droed gan S

Dydd Iau diwethaf bu tim pel droed Rhoscolyn yn cystadlu yn erbyn Ysgol Biwmares, ond doedd dim lwc gyda’r sgor!

Roedd pawb wedi trio eu gorau glas a chafwyd digon o hwyl. Gobeithiwn y bydd sgor yn erbyn Morswyn dydd Mercher nesaf dipyn gwell!

Harddwch Gloynynod Byw gan B

Mae grwp o blant Bl 6 wedi bod yn astudio gloynynod byw ac yn ymgeisio i wella ein hardaloedd gwyllt ar eu cyfer. Mae eu cynlluniau yn cynnwys gweithgareddau i blant yn ein gerddi gwyllt yn ystod yr haf. Mae cynlluniau hefyd i gysylltu a chanolfanau garddio lleol i helpu gyda’r ymgyrch. Yn ogystal, mae’r tim yn argymell i rieni a phlant helpu adref.

Dyma sawl ffordd sut i helpu:

· Dal gloynynod a’u henwi (byddai blwch cardfwrdd gyda golau ar ei ben, neu gynfas gwyn o fudd, os nad oes gennych drap)

· Plannu planhigion sydd yn denu gloynynod

· Gwylio a dysgu am loynynod, siarad gyda ffrindiau amdanynt. Dechrau eich prosiect eich hun!

Os oes ganddoch unrhyw syniad pellach, neu os ydych am drafod y prosiec, cysylltwch a ni.

Eisteddfod gan K a F

Mae rhai plant yn ddigon ffodus i gynrychioli Ysgol Rhoscolyn yn Eisteddfod yr Urdd!

Daeth Flint yn ail yn y gystadleuaeth llefaru i ddysgwyr, ond yn anffodus nid yw’n gallu cystadlu yn yr Eisteddfod Rhanbarth, felly bydd K (a ddaeth yn drydedd) yn cystadlu yn ei le yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Cer amdani K!!!!!!!

GLAN LLYN 2008 gan G, Rh a R

YAHOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!!!!!!!!!!!

Mae’n amser paratoi ar gyfer Glan Llyn unwaith eto i Flynyddoedd 4,5 a 6. Tydan ni’n lwcus – mynd i Lan Llyn am benwythnos gyfan. Fe fydd cymaint o hwyl i’w gael – dringo, ceufadu, nofio, cwrs rhaffau uchel, adeiladu rafft a disgo, a hefyd… bydd yr arced ar agor! Gret!

Beicio Bach gan Ch

Rhoddwyd gwahoddiad i Ceri, Swyddog Diogelwch Beics i addysgu’r dosbarth derbyn sut i reidio beic yn ddiogel. Llwyddasant i reidio beic mewn llinell syth gyda sachau ffa ar eu pennau! Roedd yn rhaid iddynt ddysgu body n ddiogel a chael hwyl ar yr un pryd.

Croeso’n ol Casey gan G a R

Croesawyd Casey Jones yn ol o’i daith i Zimbabwe. Daeth Casey i ddangos lluniau o’i ymweliad i Flynyddoedd 3,4,5 a 6. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad hael, a rhannodd ei sylwadau a’i syniadau am ei ymweliad (roeddent yn hynod ddiddorol). Diolchwn yn fawr i Casey am ddod yn ol i sgwrsio a ni.

Ymweliad Bl 3 a 4 ag Ysgol Bodedern gan J

Bu Bl 3 a 4 yn ymweld ag Ysgol Boderdern i wylio sioe diogelwch ffyrdd yr wythnos hon. Roedd tri cymeriad, Emma, Rhys a Becca. Roeddent yn canu ac yn action. Ysbryd oedd Emma gan ei bod wedi ei tharo a char (cofiwch mai action oedden nhw!) Roedd hon yn sioe i’w mwynhau ac i ddysgu oddi wrthi – a dyna’n union wnaeth Bl 3 a 4.

Techniquest gan A, B, M

Yn ddiweddar, rydym wedi derbyn 2 ymweliad gan Techniquest. Ar yr ymweliad cyntaf aeth paw bi mewn i falwn anferth ddu, oedd yn disgrifio’r bydysawd, a’i ser a’r planedau. Dysgasom nifer o bwyntiau pwysig am Bliwto, a sawl gwaith y byddai’r ddaear yn ffitio i mewn i storm ar Gwener. Yn ystod eu hail ymweliad, ffocws y dydd oedd egni’r haul. Bu llawer yn cynhyrchu modelau Knex oedd yn defnyddio pwer yr haul i droi. Yn lle haul, defnyddiasom olau lamp! Cafwyd hwyl yn cynhyrchu’r modelau. Roedd pob un yn dda, er dim ond un ddaru beidio gweithio’n iawn wrth i ni eu profi. DIOLCH TECHNIQUEST!!!

Hwyl Fawr C ac A gan J a M

Pob lwc i chi yn Llundain, bydd pawb yn eich colli. Rydym wedi cael lot o hwyl yn chwarae hefo chi yma yn Rhoscolyn. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn eich ysgol newydd cystal ffrindiau a ni! Hwyl fawr i chi gan bawb yn Rhoscolyn, pob lwc!

Llyfrgell gan R a H

Dydd Llun, Mawrth 5ed aeth pawb y tu allan i ymweld a fan y llyfrgell. Dewisiwyd dau lyfr, un Cymraeg ac un Saesneg, a chafwyd stamp ar bob un. Roedd sawl adran i’r llyfrgell, roedd llyfrau ffuglen i blant 7 i 11 oed, a hefyd adran gyfeirio yn llawn gwybodaeth.

Sgio ym Mlwyddyn 5 gan L a C

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn derbyn gwersi sgio ym Mhlas y Brenin. Yn anffodus, dyma ein wythnos olaf. Rydym wedi mwynhau sgio yn fawr iawn, yn enwedig mwynd ar y tow. Er i J gael codwm ddrwg a syrthio ar ei ben, aeth yn syth i mewn i’r bocs towio – SBLAT! Syrthiodd G a gwneud y sblits! Cafodd L a B ras i lawr y llethr anodd gan sgio i mewn i’r bar rhwystr yn y gwaelod. Er gwaethaf hyn i gyd, rydym wedi dysgu bod yn sgiwyr cyfrifol, diogel!!!

Llwyddiant o £220 i’r Galeri Ffotograffau gan K

Gwnaethpwyd elw o £220 yn ystod y Noson Galeri Ffotograffau nos Iau diwethaf, Mawrth 6ed. Bu plant yn ymweld a Doc Bach a thraethau lleol i dynnu lluniau i bawb eu mwynhau! Roedd y neuadd, wedi ei haddurno a’r cychod o’n gardd glan-y-mor yn edrych yn hynod o effeithiol, ac yn go debyg i draeth go iawn! Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ddod neu a brynodd ffotograff. Y nein barn ni, maen’t yn amhrisiadwy!

Bydd y ffotograffau, wedi eu fframio neu’n unigol, ar gael i chwi pythefnos ar ol gwyliau’r Pasg.

P.T.A Cymdeithas Rhieni /Athrawon gan N


Ymhle mae’r wyau euraidd?

Helfa Wyau Pasg

Dydd Mercher Mawrth 20fed 3.15yh

£1 y plentyn

Bydd te, coffi a chacennau ar werth

Gwerthfawrogwn roddion o Wyau Pasg

os gwelwch yn dda!

Dyddiadau_Dates

20.3.08 HMS INSET (dim ysgol, school closed)

21.3.08 Dydd Gwener y Groglith, ysgol ar gau

Good Friday, school closed

24.3.08 Y Pasg, pythefnos o wyliau

Easter, 2 weeks holiday

7.4.08 Ysgol yn ail agor, School opens

Noson Rhieni M, 1, 3, 5

8.4.08 PC Brian Jones

Noson Rhieni D, 2, 4, 6

5.5.08 Gwyl y Banc, Bank Holiday

26.5.08 Hanner Tymor, Half Term

2.6.08 Ysgol yn ail agor, School opens

21.7.08 Gwyliau’r Haf, Summer Holidays

CANOLFAN HAMDDEN AR OL Y PASG

BL 1 A 2 NOFIO

BL 5 A 6 CHWARAEON (5 WYTHNOS)


PASG HAPUS I BAWB, GOBEITHIO Y CEWCH WYLIAU HAPUS IAWN.

GOBEITHIWN EICH GWELD YN FUAN.

MWNHEWCH EICH GWYLIAU PASG A’R HOLL WYAU SIOCLED!!! Neis iawn!!

newsletter 18

Welcome to Newsletter 18. Many thanks to parents who have supported us so well during the past half term, we appreciate your understanding in receiving letters at the last minute and the postponing of parents’ evenings due to courses, meetings and competitions and staff illness. Heartfelt thanks to Years 5 and 6 for writing and compiling our latest newsletter. We hope you enjoy!

Swimming Gala by LC and VS

We were all excited and some of us were scared! A Swimming Gala! We all got in the minibus at 9:20am and when we got to the leisure centre our knees were shaking but when we got in the pool we felt better. L got a bronze medal for her front crawl. K got bronze for doing back stroke, J got silver for doing front crawl and A O got gold for doing front crawl! There were other swimmers that took part in the gala but didn’t get a medal but they tried their best. We’re proud of ourselves!

Swimming Gala 11-3-08, by F

Today I went to the Swimming Gala and swam the backstroke race. We arrived at roughly 9: 30am in the trusty old minibus and waited for a while and then J raced his first race, he raced amazingly and came a brilliant second! When I raced in the back stroke I also had a good race and came second. I got called up almost as soon as I sat down, when they called me up I wasn’t sure if they said me but Jordan said it was and I went to collect the medal! It was the first medal I’d ever won and it felt amazing! Overall we came 6th out of 12, and we all tried our hardest but we still came 6th no-one minded and everyone had a good time!

Swimming Gala 2008 by Ch

There was a Swimming Gala on Tuesday morning. Ysgol Rhoscolyn children competed. They swam against different schools though some just swam in the Relay, lots of children cheered for their team mates. Lots of children were successful in competing and some got medals. At the end of the day everyone had fun even though some did not win.

DANGER POINT by B

Year 6 visited Danger Point in Flintshire to learn about different dangers. When we arrived we were given controls called activates which we nicknamed eggs. We then used them to select our answers in a quiz. We got 55% of the questions correct.

We went into a life size model of the inside of a train carriage and saw a film of two incidents that happened on a train line in Manchester. After seeing that we saw a model of an electric train line. We were all surprised by the scary sound effect of an oncoming train.

We then learnt about pedestrian crossings, where it was safe to stop in a car when approaching a crossing, how to use a crossing and how people who can’t see or hear use a crossing. A lot of people liked the fancy Toyota!

Then we learnt about how to cope with bullying and what to do about it. We watched a video which showed us that it was better to tell an adult then keep quiet or fight back.

Goodbye Beacon Climbing Centre by R and H

Today will be our sixth and final time at the Beacon Climbing Centre. All of Year 6 are going to miss the high walls we all climb and especially the kind instructors. We’ve learnt how to use a karibiner, how to tie a figure of eight knot, how to use equipment like harnesses and helmets, how to belay– and how to climb safely! H will especially be unhappy to leave because he is so close to reaching the top and this week, we know he will succeed!

Eisteddfod Success by K and L

Thanks to everyone who has taken part in the success of the Royal Charter creative dance. We are sailing our way to the finals with first place in the last two Urdd competitions. But our journey might end by the evil wrath of the judges when we enter the prelims to qualify for the finals where we will be on TV!

Football Disaster by S

Last Thursday Ysgol Rhoscolyn Football Team competed in a football match against Ysgol Biwmares, but the result for Rhoscolyn wasn’t a happy one!

We tried our hardest and we had fun! But there’s another chance against Ysgol Morswyn so hopefully our luck will change for that game!

Beautiful Butterflies by B

A group of year six children have been studying butterflies and wish to improve the school garden for them. Their plans include activities for children in the school wildlife gardens in the summer. They are also planning to get in touch with our local garden Centres for help with this project. But they also would like you to help at home.

Here are some ways which you could help:

· Trap moths and identify them (A cardboard box with a light bulb on top, or a white sheet are very good if you haven’t got a trap).

· Plant plants which are good for butterflies and moths such as thistle, apple-mint or soapwort.

· Watch and learn about butterflies. Talk to friends and family about moths and butterflies. Start your own project!

If you have any more ideas or want to know more about the project please ask!

Eisteddfod by K and F

Some people are lucky enough to go and represent their school in the local Eisteddfod and even get to go through to the next round and compete again! F came second in reciting but unluckily for him he can’t compete in the next round so his friend K who came third is going to step into his shoes and compete again on Saturday at Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Go K!!!!!!!

GLAN LLYN 2008 by G, Rh and R

YAHOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!!!!!!!!!!!

It’s Glan Llyn time for Year 4, 5 and 6. Lucky us - going to Glan Llyn for a whole weekend! It’s going to be Sooooooooooooooooooooooooooooooo fun there’s so much to do in one weekend such as: climbing, canoeing, swimming, bowling, treetop adventures, raft building, a disco and wait for it …….. the arcade’s open yippee!!!!!!!! We will have so much fun!

Beicio Bach Little Bikes by Ch

We invited Ceri, Bicycle Safety Officer to teach the reception class how to ride a bike. They mastered riding a bike in a straight line with a bean bag on their head! They had to learn how to be safe whilst undertaking some fun activities.

Welcome back Casey by G and R

We welcomed back Casey Jones from his trip to Zimbabwe. Casey kindly came to present his pictures of his trip to Years 3, 4, 5, and 6. He thanked us for the donation from the school and gave his thoughts on his journey (they were sooooo interesting) we thank Casey for coming back to see us and to talk to us.

Year 3 and 4 trip to Ysgol Bodedern by J

Year 3 and 4 visited Bodedern to see a show about road safety last week. There were three characters, Emma, Rhys and Becca. They had a sing along with actions. Emma was a spirit because she was ran over and wasn’t careful (not for real!). It was a show to enjoy and learn from - well I know that Years 3 and 4 did.

Techniquest by A, B, M

Lately we have been visited twice by Techiquest. On their first visit they took us inside a giant balloon which served as a giant astronomy centre. We learnt all about stars and planets. We learnt a lot of interesting facts like why Pluto lost its status and how many times earth would fit into a storm on Jupiter. On their second visit they taught us about solar energy. We created models of fairground rides out of Knex and powered them with solar panels. The panels were powered by a lamp. We had a lot of fun learning about space and we had a lot of fun making the models. The models were all very good and only one didn’t quite work when it came to testing it. THANK YOU TECHNIQUEST!!!!!

Good bye C and A by J and M

Have a good time in London, we will all miss you C and we won’t forget you A byeeeeeeeeeeeeeeeeeeee! We have had a lot of fun playing with you both at Rhoscolyn. When you are in your other school make new friends like us - we wish you the best of luck from the whole of Rhoscolyn, have fun!

Library by R and H

On Monday the 5th of March we went outside into the library van. We picked two books, one English and one Welsh. After that we gave the books to the man who scanned the books. There were different sections in the van; there were fiction books for ages 7 to 11 in English and Welsh, also a section for information books of all sorts.

Skiing in Year 5 by L and C

We have recently been taking skiing lessons at Plas y Brenin. Unfortunately this is our last week. We have enjoyed skiing very much and especially enjoyed going on the tow. J had a bad fall and he landed on his head then he fell again SPLAT on to the tow box! (see the video online!) But he’s made of tough stuff! G fell into the split position. L and B had a race down the main slope and they crashed into the barrier at the very end of the slope and up a small slope at the bottom! Apart from that we’re all becoming very competent, safe skiers!

£220 Success for the Photo Gallery by K

£220 was raised at the photo gallery on Thursday night 6th of March. Pupils went out to the beach or docks and took a photo for their parents to look at so that we could have a photo gallery for people to enjoy! The hall, decorated with boats from our seaside garden looked stunningly beach-like. Thank you to everyone who came and had a look or bought a photograph. We think they’re priceless!

All photographs, framed or otherwise will be ready for collection two weeks after we return from the Easter hols!

P.T.A Cymdeithas Rhieni / Athrawon by N

Where are the Golden Eggs?

Easter Egg Hunt

Wednesday March 20th 3.15 pm

£1 per child

Tea, coffee and cakes will be on sale

Parents are kindly asked for donations of all kinds of Easter Eggs

Dyddiadau_Dates

20.3.08 HMS INSET (dim ysgol, school closed)

21.3.08 Dydd Gwener y Groglith, ysgol ar gau

Good Friday, school closed

24.3.08 Y Pasg, pythefnos o wyliau

Easter, 2 weeks holiday

7.4.08 Ysgol yn ail agor, School opens

Noson Rhieni M, 1, 3, 5

8.4.08 PC Brian Jones

Noson Rhieni D, 2, 4, 6

5.5.08 Gwyl y Banc, Bank Holiday

26.5.08 Hanner Tymor, Half Term

2.6.08 Ysgol yn ail agor, School opens

21.7.08 Gwyliau’r Haf, Summer Holidays

LEISURE CENTRE ACTIVITIES AFTER EASTER

YEARS 1 AND 2 SWIMMING (FRIDAYS)

YEARS 5 & 6 DRY SPORTS (5 WEEKS)


HAPPY EASTER TO EVERYBODY, WE HOPE YOU HAVE A HAPPY HOLIDAY. SEE YOU SOON - ENJOY YOUR HOLIDAY AND YOUR CHOCOLATE EGGS!!! YUM YUM!!

AN EGGCELLENT EASTER TO ALL EGG EATERS!

10.3.08

Royal Charter

LLONGYFARCHIADAU
I'R GRWP DAWNSIO CREADIGOL
ROYAL CHARTER
1AF!
EISTEDDFOD DDAWNS YR URDD, MON
10.3.08

CONGRATULATIONS
ROYAL CHARTER
CREATIVE DANCE GROUP
1ST PRIZE!
EISTEDDFOD DDAWNS YR URDD, MON
10.3.08

1.3.08

'Steddfod 08

'Steddfod 08 - Gwych! Great! (mwy/more)

Dawns Y Royal Charter Dance, Ysgol Gyfun Llangefni
10.3.08 8pm
gohirir Nosweithiau Rhieni!
Parents Evenings postponed!

Eisteddfod Dawnsio'r Urdd, Rhanbarth Mon, Nos Lun, Mawrth 10fed, Ysgol Gyfun Llangefni
Eisteddfod yr Urdd, Mon, Dydd Sadwrn, Mawrth 15eg, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

Urdd Dance Competition - Monday, March 10th, Ysgol Gyfun Llangefni
Eisteddfod yr Urdd, Mon, Saturday, March 15th, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch