29.11.07

EATON

Diolch EATON am eich caredigrwydd wrth noddi ein gwisgoedd gwrth-ddwr ar gyfer ein Hymgyrch Addysg Awyr Agored. Fe fyddem yn siwr o'u gwlychu'n fuan!


Many thanks EATON Charitable Funds for your generous donation in helping Ysgol Rhoscolyn gain new waterproof jackets and trousers for our Outdoor Education Scheme. We're bound to get them extremely wet very soon!

24.11.07

gala nofio'r URDD swimming gala

Llongyfarchiadau mawr i Dim Rhoscolyn ar eu hymdrechion gwych yng Ngala Nofio'r Urdd - a diolch rieni, neiniau a theidiau am eu cefnogi mor dda!

Many congratulations Team Rhoscolyn for your excellent efforts in the Urdd's Swimming Gala - and lots of thanks to parents and grandparents for their warm, Rhoscolyn support!

pod 2

Mae'r POD wedi cyrraedd, ac yn barod i'w agor - mae dysgu'r plant yn cael ei drawsnewid yn Rhoscolyn!
Our POD is ready and waiting to be entered - personalised learning has hit Rhoscolyn!


22.11.07

HMS_INSET

HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
DYDD GWENER 23.11.07

INSET - TEACHER TRAINING
FRIDAY 23.11.07

16.11.07

Pudsey


Plant mewn Angen_Children in Need
£210 - llongyfarchiadau_congratulations everyone!

15.11.07

newyddlen 15



HMS INSET

23.11.07

YSGOL AR GAU / SCHOOL CLOSED


Diolchgarwch

Roedd aelodau Eglwys Santes Gwenfaen yn ymfalchio yng ngwaith printio Dosbarth Miss Owen eleni, ac addurnwyd seddi’r eglwys gydag hwy.

Roedd y ffrwythau a’r llysiau werth eu gweld hefyd – yn enwedig y nionod a dyfwyd yng ngardd yr ysgol!


Cyn Ddisgyblion yn ymweld

Rhoddwyd croeso cynnes i Flossy, Katie, Sophie ac Alex cyn hanner tymor. Roedd hi’n braf eu gweld yn edrych mor dda!

celf ym mhobman!

Gyda thros £300 wedi ei godi, roedd ein noson Oriel y Plant yn llwyddiannus dros ben. Mawr ddiolch i’r staff, rhieni a phlant am eu cefnogaeth.


EI EISIAU!

Os oes gennych hen botiau jam glan, di-angen, a fyddech cystal a dod a nhw i swyddfa’r ysgol er defnydd Blwyddyn 5 a 6 os gwelwch yn dda.


Diogelwch y ffordd

Bydd Bl 5 a 6 yn sefyll eu prawf beicio yr wythnos nesaf, pob lwc iddynt! Bydd Bl 1 a 2 yn cychwyn eu sesiynau Diogelwch y Ffordd ar yr 22ain, a bydd y plant Meithrin a Derbyn yn parhau gyda’u gwersi beicio. Da iawn pawb – a diolch i’r rhieni am sicrhau fod y beics yma mewn pryd!


Ceufadu

Bydd Bl 5 a 6 yn gwlychu unwaith eto gyda sesiynau ceufadu yn y ganolfan hamdden, yn cychwyn yr wythnos hon.


Wythnos Gwrth Fwlio

Yn cychwyn ar y 19eg gyda’n Bydis Buarth. Bydd y Bydis yn ceisio sicrhau fod gan bawb ffrindiau ar yr iard, a bydd mainc arbennig yn cael ei lleoli ar yr iard fel bod lle arbennig i blant wneud ffrindiau newydd.

Diolch i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am gyfrannu £200 tuag at ein offer amser chwarae newydd. Daw mwy o offer yn fuan!

Ysgolion Iach Cam 1

Llongyfarchiadau lu ar gwblhau Cam Cyntaf Ysgolion Iach Ynys Mon. Cafodd ein Prif Fachgen a Phrif Eneth fore braf yn Nhre-Ysgawen yn ddiweddar, wrth dderbyn gwobr ar ran Ysgol Rhoscolyn.


Woodland Trust a Spar

Edrychwn ymlaen at dderbyn ein pecyn i dyfu gwrychyn gan Spar y mis yma, ac yna pecyn coed gan Ymddiriedolaeth y Goedwig ym mis Chwefror. Mae mwy o blannu i’w wneud felly!!!

Gardd Jyngl

Rydym yn casglu coed a phlanhigion mawr iawn er mwyn creu gardd jyngl – daw mwy o fanlylion maes o law.


Edrych ymlaen at y Nadolig!

Dyddiadau Rhagfyr

4ydd cyfarfod CRHA – Ffair Nadolig

5ed Derbyn a Meithrin i Groto

6ed FFAIR LYFRAU USBORNE 3.10 – 4.30yh

12fed Ffair Nadolig

13eg Meithrin, Derbyn, Bl 1 a 2 Panto Ucheldre

14eg Cinio Nadolig

18fed Cyngerdd Nadolig – prynhawn

19eg Cyngerdd Nadolig – gyda’r hwyr

21ain Gwyliau’r Nadolig

www.rhoscolyn.ynysmon.sch.uk


Peidiwch ag anghofio ymateb i ddogfen yr AALl

Rhesymoli Ysgolion Caergybi

http://www.ynysmon.gov.uk

cliciwch ar Addysg

newsletter 15

newyddlen #15 newsletter 10.11.07



HMS INSET

23.11.07

YSGOL AR GAU / SCHOOL CLOSED


Harvest Festival

St Gwenfaen’s Church were impressed by Miss Owen’s class’ printing work this year, which adorned the pews of the church for their annual Harvest Festival.

The baskets of fruit and vegetables (including our home grown onions) looked stunning too!


Past Pupils Return

The children gave a warm welcome back to Flossy, Katie, Sophie and Alex before half term. It was great to see you looking so well, girls!

art for your walls

With over £300 raised, our Gallery Evening was a great success. Many thanks to all staff, parents and pupils who supported.


WANTED!

Clean jam jars with lids for Years 5 and 6 please! Please leave at school office.


Road Safety

Years 5 have their Cycling Proficiency Test next week, good luck everyone – be safe! Years 1 and 2 start their Road Safety Awareness on the 22nd, and our Reception and Nursery Class continue with their cycling lessons. Well done everyone – and many thanks to parents for ensuring that bikes are brought to school.



Canoeing

Years 5 and 6 plan to get wet again with indoor canoeing sessions at the leisure centre, starting this week.


Anti Bullying Week

is launched on the 19th with our very own Bydis Buarth (Yard Buddies). The buddies will ensure that everyone is befriended on the school yard, and a particular garden bench will be installed on the yard so that any child looking for a friend to play with has a place to meet new friends.

Many thanks to the PTA for contributing £200 towards our brand new playtime toys and games. Keep your eyes peeled for new additions!

Healthy Schools Phase 1

Congratulations are due for completing the first phase of the Healthy School Initiative. Our Head Boy and Girl enjoyed receiving the award on behalf of Ysgol Rhoscolyn at Tre-Ysgawen Hall recently.



Woodland Trust and Spar

We look forward to receiving our free hedge pack from Spar this month, and a free copse pack from the Woodland Trust in February. There’s more planting to do!!!

Jungle Garden

We’re currently collecting large jungle plants for a new Jungle Garden – more details will follow soon.


Looking forward to Christmas!

December Dates

4th PTA meeting re Christmas Fair

5th Nursery and Reception visit Wylfa’s Grotto

6th USBORNE BOOK FAIR 3.10 – 4.30pm

12th PTA Christmas Fair

13th Nursery, Recption, Yrs 1 and 2 Ucheldre Panto

14th Christmas Dinner – yummy!

18th Christmas Concert Matinee

19th Christmas Concert – evening

21st Christmas Holidays

www.rhoscolyn.anglesey.sch.uk


PLEASE don’t forget to respond to the LEA’s

Rationale of Holyhead Schools Document.

http://www.anglesey.gov.uk

click on Careers and Learning

14.11.07

pod

Beth ydy o?
Cadwch lygad barcud...
Mae ar ei ffordd i Ysgol Rhoscolyn... Y POD!

What is it?
Keep watching...
It's coming soon to Ysgol Rhoscolyn... THE POD!

gwasanaeth_assembly


Gwasanaeth y Dosbarth Derbyn - dyma ni wedi creu offerynau i gyd-fynd a'r emyn!
Reception Class Assembly - we've made our own instruments to accompany the hymn!
lluniau_images

9.11.07

ceufadu_canoeing


Cynhelir gwersi ceufadu yn y ganolfan hamdden leol - mae'n ddipyn cynhesach na'r mor ym Mhorth Dafarch!
Canoeing lessons are held at the sports centre - it's much warmer than the cold Irish Sea!
lluniau_images