GWOBR AWYR AGORED
Mae'n hynod falch gennym gyhoeddi ein bod yn ran o Wobr Awyr Agored Cenedlaethol Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru.
Pwrpas y Wobr yw sefydlu Gwobr achrededig genedlaethol newydd yng Nghymru; gan gyflwyno ieuenctid Cymru i weithgareddau antur awyr agored gydol oes.
Nod y Wobr yw:
* datblygu sgiliau personol a chymdeithasol plant trwy addysg awyr agored
* cyfrannu at addysg plant trwy'r Cwricwlwm Cenedlaethol 2008
* annog cyfranogiad cynaliadwy, gydol oes, mewn gweithgareddau a hamdden awyr agored.
Mae'r Wobr yn cynnwys 3 elfen: Sgiliau Bywyd, Antur a Chynefin.
Bwriedir cyflwyno ein disgyblion i Arfordira (Coasteering), Sgio, Ceufadu a Hwylio eleni. Fedra ni ddim disgwyl!!!
Am fwy o wybodaeth: http://www.partneriaeth-awyr-agored.co.uk/cymraeg/index.php
<< Home